Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Teulu Bach Nantoer
Teulu Bach Nantoer
Teulu Bach Nantoer
Ebook104 pages1 hour

Teulu Bach Nantoer

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

This e-book is edited from the original 1913 publication and includes the adjudication from the Wrexham National Eisteddfod, 1912. Teulu Bach Nantoer appears to be a simple story, but it is loaded with the hopes, aspirations and the worries of the Welsh about their language, their community and their culture.
LanguageCymraeg
PublisherCromen
Release dateSep 12, 2013
ISBN9781909696082
Teulu Bach Nantoer

Related to Teulu Bach Nantoer

Related ebooks

Reviews for Teulu Bach Nantoer

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Teulu Bach Nantoer - Moelona

    Teulu Bach Nantoer

    CHWEDL I BLANT

    GAN MOELONA

    Nodyn Golygyddol:

    Golygiad o’r argraffiad cyntaf (1913) mewn orgraff ddiweddar yw’r e-lyfr hwn, ac mae hefyd yn cynnwys y feirniadaeth a gafwyd ar y nofel yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, 1912, ynghyd â’r Eirfa a gyhoeddwyd yn y gyfrol wreiddiol. I gyd-fynd â rhaglen deledu, a gynhyrchwyd gan gwmni Unigryw, ac a ddarlledwyd ar S4C, Medi 2013, ysgrifennwyd cyflwyniad i’r gyfrol gan Siwan M. Rosser ac mae adran Nodiadau wedi’i chynnwys yn dilyn y testun sy’n cynnwys gwybodaeth bellach am y dyfyniadau sydd ar ddechrau pob pennod.

    logo cromen

    TEULU BACH NANTOER

    GAN MOELONA

    Cyhoeddwyd yn 1913 gan

    Hughes a’i Fab, Wrecsam

    Cyhoeddwyd yn 2013 gan Cromen

    www.cromen.co.uk

    Dan drwydded gan Hughes a’i Fab / S4C

    Isbn : 978-1-909696-08-2

    Cynllunio gan Almon

    www.almonia.co.uk

    Ffotograffiaeth gan Marian Delyth

    Cyhoeddwyd gyda chymorth Cronfa Ddigidol S4C

    Cyflwyniad i’r e-lyfr

    Siwan M. Rosser

    Yn ddiymhongar ddigon y cyflwynodd Lizzie Mary Owen (1877–1953) ei ‘llyfr bychan’, Teulu Bach Nantoer, i blant Cymru ganrif yn ôl, ‘gan hyderu y cânt ynddo fwynhad, a rhyw gymaint o symbyliad i garu â chariad mawr eu hiaith, eu gwlad, a’u cenedl’. Bryd hynny, roedd llyfrau i blant yn bethau prin, a nofelau’n brinnach fyth. Magwyd cenedlaethau o blant y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar gylchgronau enwadol moeswersol a phregethwrol. Ond erbyn cyhoeddi Teulu Bach Nantoer roedd newid ar droed a galw cynyddol am lyfrau i fwydo’r dychymyg, yn ogystal â’r enaid. Nofel ar gyfer canrif newydd oedd Teulu Bach Nantoer ac ar ddechrau cyfnod newydd cyffrous yn hanes cyhoeddi llyfrau ganrif yn ddiweddarach, dyma gyflwyno fersiwn electronig arloesol o’r nofel bwysicaf i blant yn y Gymraeg.

    Athrawes, llenor a cholofnydd oedd yr awdur – gwraig a oedd yn eangfrydig ei diddordebau ac yn daer dros y Gymraeg a’i diwylliant. O gefndir amaethyddol, fe’i ganwyd ar fferm Moylon ym mhentref Rhydlewis, yn ne Ceredigion. Symudodd y teulu i ffermdy cyfagos Llwyn yr Eos cyn i Lizzie ddechrau yn yr ysgol, ond rhaid bod cof annwyl ganddi am ei chartref cyntaf gan mai hwnnw a roes iddi ei henw barddol, Moelona. Ymddengys bod amgylchiadau’r teulu yn ddigonol. ‘Nid oedd yno na chyfoeth na thlodi’ yn ôl cofiant O. L. Roberts i’w brawd, y Parch. O. R. Owen (Glandŵr).¹ Ond dyma deulu a wynebodd drallodion yn sgil colli saith o’r plant. Roedd marwolaeth plentyn yn ddigwyddiad rhy fynych o lawer yn oes Fictoria a phrofodd teulu John a Mary Owen, rhieni Moelona, un wythnos echrydus yn 1875 pan fu farw tri phlentyn. Claddwyd dau yr un diwrnod ac yn ôl y cofiant, ‘erbyn dychweliad y cyfeillion o’r fynwent yr oedd y trydydd hefyd wedi huno’. Ganwyd Moelona ddwy flynedd yn ddiweddarach, ar 21 Mehefin 1877, ond rhaid bod cysgod y colledion cynharach dros y teulu fyth wedyn. ‘[Y]n wir,’ meddai’r cofiannydd, ‘nid ymuniawnodd y fam byth ar ôl yr archoll honno.’

    Ond yr oedd i’r teulu hwn uchelgais ac argyhoeddiad y gallai’r plant a oedd yn weddill wneud cyfraniad o bwys i’w cymuned. Rhoddwyd pwyslais mawr ar werth addysg ac ar drwytho’r plant yn y Beibl, sylfeini’r ffydd Gristnogol a’r iaith Gymraeg. Yn yr ysgol, cadarnhawyd yr egwyddorion hyn gan y prifathro dylanwadol J. N. Crowther (Glanceri). Sais ydoedd a ddysgodd Gymraeg yn rhugl ac a gyfrannodd yn helaeth i ddiwylliant yr ardal ac ymwybyddiaeth genedlaethol Moelona ei hun. Mewn cyfnod pan oedd safon addysg yn anwastad iawn a gelyniaeth tuag at y Gymraeg i’w gweld mewn nifer o ysgolion ledled y wlad, ymddengys i Moelona gael addysg a fu’n ysbrydoliaeth iddi weddill ei hoes.

    Mae’n bosibl hefyd i bresenoldeb Sarah Jane Rees, neu Cranogwen (1839–1916), yn Llangrannog, gwta bum milltir o Rydlewis, ddylanwadu ar Moelona. Dyma wraig a ymgorfforai’r grym a roddai addysg i ferched fagu llais a gyrfa annibynnol. Drwy ei gwaith yn lleol ac yn genedlaethol fel golygydd Y Frythones gwnaeth lawer i feithrin hyder merched ifanc Cymru i wireddu eu potensial. Edmygai Moelona hi’n fawr, a neilltuodd le anrhydeddus i gyfraniad Cranogwen yn ei Storïau o Hanes Cymru (1930).² Peth anghyffredin yn llyfrau hanes y cyfnod oedd rhoi llawer o sylw i ferched, ond gwnaeth Moelona hynny gan ddatgan yn hyderus amdani yn Storïau o Hanes Cymru, ‘dysgodd Cranogwen ferched i feddwl drostynt eu hunain, i bwyso arnynt eu hunain, ac i gydweithio â’i gilydd. Dysgodd hefyd y gall merched ddewis eu cwrs mewn bywyd yr un fath â bechgyn’. Roedd Moelona â’i bryd hefyd ar dorri ei chŵys ei hun a pharhau â’i haddysg ond yn sgil colli ei mam yn 1890, a’i thad yn 1895, nid aeth i’r brifysgol er iddi ennill ysgoloriaeth i Goleg Aberystwyth. Yn hytrach, trodd ei bryd at ddysgu ac fe’i penodwyd yn ddisgybl-athro yn ysgol Rhydlewis. Un o’i chyfoedion yno a ymgeisiodd am y swydd oedd Caradoc Evans, brodor arall o’r ardal a ddaeth yn awdur nodedig, ond am resymau pur wahanol i Moelona, fel y gwelwn yn y man.

    Yn ei hugeiniau, penderfynodd Moelona adael ei hardal enedigol gan gymryd swyddi dysgu ym Mhont-rhyd-y-fen, Pen-y-bont ar Ogwr ac Acre-fair yn y gogledd-ddwyrain cyn ymgartrefu yng Nghaerdydd o tua 1905 ymlaen. Dyma lefydd cwbl wahanol i Rydlewis wledig yn eu hamgylchfyd, eu hiaith a’u diwylliant ac ymddengys i’r athrawes ifanc gael blas arbennig ar yr amrywiaeth a gynigiai dinas fel Caerdydd. Yno roedd Moelona yn troi mewn cylchoedd diwylliedig a oedd yn cynnwys Eluned Morgan, y llenor o’r Wladfa, a’r athro a’r hanesydd Howell T. Evans. Datblygodd annibyniaeth barn ynghylch y Gymraeg a safle’r ferch, a throes ei golygon tuag at Ewrop hefyd. Medrai rywfaint o Almaeneg ac ymddiddorai’n arbennig yn niwylliant Ffrainc. Roedd yn aelod o gymdeithas Eingl-Ffrengig yng Nghaerdydd a chyhoeddwyd ei chyfieithiad o weithiau’r llenor Alphonse Daudet i’r Gymraeg dan y teitl ‘Y Wers Olaf’ (1921).

    Ond ei gwaith fel athrawes Gymraeg oedd ei blaenoriaeth. Er bod rhywfaint o le wedi ei neilltuo i’r iaith yn yr ysgolion elfennol ar y pryd, pwnc ymylol ydoedd ar gyrion maes llafur cwbl Seisnig ei gynnwys. Yn ôl tystiolaeth W. C. Elvet Thomas, gŵr a ddaeth yn athro Cymraeg dylanwadol ei hun yng Nghaerdydd yn ddiweddarach, wynebodd Moelona dalcen caled yn ei gwaith fel athrawes Gymraeg yno. Cofiai Moelona â’i llygaid yn llawn dagrau un prynhawn yn Ysgol Kitchener Road oherwydd agwedd drahaus y prifathro tuag at ei hymdrechion i ddysgu’r iaith iddo ef a’r plant eraill. Ond ‘menyw stans oedd Moelona,’ meddai yn ei hunangofiant, Tyfu’n Gymro.³ ‘Yr oedd nid yn unig yn un gadarn ei safiad o blaid popeth Cymraeg a Chymreig, ond yr oedd yn

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1